Grŵp o wirfoddolwyr o’r ardal leol sy’n gweithredu ac yn cynnal Rheilffordd Fach Cyfarthfa. Mae hi ar agor i’r cyhoedd rhwng 1 Ebrill a 30 Medi ar benwythnosau a gwyliau ysgol rhwng y dyddiadau hyn. Mae croeso i wirfoddolwyr, beth bynnag yw eu oedran neu eu gallu.
Sefydliadau'r Parc
Grŵp creadigol wedi’i leoli yn Y Bothy, ym Mharc Cyfarthfa, Merthyr Tudful. Maen nhw’n cynnal gweithdai celf a chrefft amrywiol a sgyrsiau diwylliannol.
Mae Gardd Esblygu Gwreiddiau a Hwb Dysgu Merthyr wedi’u lleoli yn Nhŷ Gwydr Cyfarthfa. Eu harbenigedd yw rhoi profiadau dysgu pwrpasol ac ysbrydoledig, yn seiliedig ar leoliad a threftadaeth naturiol gyfoethog Merthyr, ei thirweddau arbennig a’r amgylchedd byd-eang ehangach.
Caffi, man chwarae a lle sblasio yng nghanol y parc sy’n cynnig amrywiaeth o weithgareddau i deuluoedd a phlant ifanc. Mae’r caffi’n gweini diodydd, bwyd a hufen iâ o 10am bob dydd.
Tîm o 21 yn eu 110fed flwyddyn sy’n chwarae mewn tair cynghrair a chystadlaethau clwb. Mae gemau’n cael eu cynnal ddydd Mawrth, dydd Iau a dydd Gwener. Croeso cynnes i bawb.
Mae’r Rose Retreat arobryn yn lloches llonyddwch a thawelwch, gan ddarparu’r triniaethau sba moethus gorau. O dylino GAIA i driniaethau CAUDALIE i’r wyneb, eu triniaethau yw’r ffordd berffaith o ddianc rhag y byd y tu allan, gan eich adfywio’n gorfforol ac yn feddyliol.