Neidio i'r prif gynnwy

Sefydliad Cyfarthfa

Mae Sefydliad Cyfarthfa yn elusen sy'n hyrwyddo datblygiad hirdymor Castell a Pharc Cyfarthfa ym Merthyr Tudful i fod yn atyniad treftadaeth o arwyddocâd cenedlaethol. 

 

Yn 2020 cyflwynodd 'Cynllun Cyfarthfa' weledigaeth strategol lefel uchel ar gyfer y Castell a Pharc Cyfarthfa estynedig. Sefydlwyd Sefydliad Cyfarthfa i ddatblygu'r prosiect ac mae'n gweithio i droi'r weledigaeth yn gynllun realistig y gellir ei hariannu. 

 

Mae Cynllun Cyfarthfa yn weledigaeth strategol hirdymor, a fydd nid yn unig yn datgelu pwysigrwydd byd-eang hanes diwydiannol Merthyr Tudful ond hefyd yn gweithio mewn cytgord â natur i drawsnewid ardal Cyfarthfa. 

 

Mae’r Sefydliad yn elusen gofrestredig a grëwyd i wireddu’r cynlluniau datblygu ar gyfer y dyfodol. Mae wedi cael grant gwerth £1.2m gan Lywodraeth Cymru i ddechrau ar y gwaith cynllunio ac i gynhyrchu’r arian sydd ei angen i gefnogi’r gwaith sylweddol. Tra bod y Sefydliad yn canolbwyntio ar gynllunio’r prosiect, bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn parhau i reoli Castell a Pharc Cyfarthfa. Mae llawer o waith cynllunio i’w wneud, a chodi arian. Bydd hyn yn cymryd nifer o flynyddoedd. 

 

Mae'r cam cyn-ddatblygu presennol hwn yn cynnwys creu cynlluniau fesul cam ac achos busnes cysylltiedig fel y gellir codi arian angenrheidiol i ailddatblygu'r castell yn atyniad cenedlaethol beiddgar ac yn gaffaeliad i'r gymuned leol a thu hwnt.   

 

Am fwy o wybodaeth ewch i wefan https://sefydliadcyfarthfa.cymru/