Yn Amgueddfa Cyfarthfa, rydym yn ymroddedig i groesawu'r gymuned i archwilio, dysgu ac ymhyfrydu yn hanes ac arteffactau cyfoethog yr amgueddfa.
P'un a ydych chi'n ymweld am y tro cyntaf neu'n ffrind hirsefydlog, hyderwn y byddwch chi'n darganfod rhywbeth sy'n ennyn eich diddordeb.
Cymuned
Cymuned
Digwyddiadau
Cliciwch ar y ddolen i gael gwybod am y digwyddiadau sydd ar ddod rhwng Ionawr a Ebrill 2025.
Ar gyfer unrhyw ddigwyddiadau sydd angen tocynnau gallwch eu prynu drwy'r ddolen hon - https://bit.ly/3M9G5wd
Caffi Atgofion Cyfarthfa
Wnaethoch chi fynychu'r ysgol yn y Castell, neu ydych chi'n trysori atgofion o'r amser a dreuliwyd yn yr amgueddfa a'r parc? Wrth i ni baratoi ar gyfer ein dathliadau daucanmlwyddiant y flwyddyn nesaf, rydym wedi sefydlu Caffi Atgofion Cyfarthfa.
Yma, gallwch weld lluniau ac arteffactau sy'n gysylltiedig â'r ysgol a'r amgueddfa. Mae criw y caffi fel arfer yn cyfarfod unwaith y mis yn yr amgueddfa.
Fel arall, gallwch rannu atgofion am yr ysgol, yr amgueddfa neu'r parc drwy e-bostio Zoe Driscoll yn zoe.driscoll@merthyr.gov.uk
Llwybrau cyfredol a Gweithgareddau y gellir eu lawrlwytho
Rydym bob amser yn ceisio cynnig llwybrau amgueddfa i blant eu mwynhau wrth ymweld â ni yn yr amgueddfa. Os hoffech lawrlwytho'r llwybr cyn eich ymweliad, gallwch wneud hynny drwy glicio ar y ddolen hon.
Mae gennym hefyd daflen liwio y gellir ei lawrlwytho a chwilair.
Ddim yn gallu lawrlwytho? Mae taflenni print ar gael; gofynwch amdanynt yn y dderbynfa.
Cynigion ar gyfer grwpiau cymunedol
Ydych chi'n grŵp cymunedol? Gall ein Swyddog Ymgysylltu â'r Gymuned ddarparu digwyddiadau pwrpasol ar gyfer grwpiau cymunedol sydd â diddordeb mewn cael mynediad i'r amgueddfa.
Yn ogystal â'ch gwahodd i'r amgueddfa, gallwn hefyd ymweld â'ch grŵp, gan ddod ag amrywiaeth o arteffactau a gweithdai i'r gymuned, gan wneud hanes yn fwy hygyrch i bawb yn lleol.
Os yw hyn yn rhywbeth yr hoffech ei drafod ymhellach gallwch wneud hynny drwy gysylltu â'r amgueddfa ar 01685 727371 neu anfon neges e-bost at museum@merthyr.gov.uk a gofyn am siarad â'n Swyddog Ymgysylltu â'r Gymuned.
Dewch i ymuno â ni!
• Rhannwch eich stori – Ydych chi wedi ymweld â'r amgueddfa yn ddiweddar? Fyddech chi'n hoffi rhannu eich barn gyda ni - byddem wrth ein bodd yn derbyn unrhyw adborth. Gallwch wneud hynny drwy anfon e-bost atom.
• Cydweithio gyda ni – ydych chi'n artist, yn hanesydd neu’n addysgwr? Os felly, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. Rydym bob amser yn chwilio am bobl newydd i weithio gyda nhw i'n helpu i barhau i gynnig safbwyntiau a syniadau creadigol newydd i'n cymuned.
• Dod yn 'Gyfaill i'r Amgueddfa' - Hoffech chi ddod yn 'Gyfaill i'r Amgueddfa'? Mae grŵp wedi'i sefydlu sy'n codi arian ar gyfer yr amgueddfa. Maent hefyd yn cynnal sgyrsiau/darlithoedd ar amrywiol bynciau hanesyddol. Os hoffech wybod mwy am y grŵp hwn, neu os hoffech chi ymuno, rhowch wybod i ni.
• Ymunwch â'n rhestr bostio - I gael y wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd am ein digwyddiadau rydym yn argymell ymuno â'n rhestr bostio. Yn syml, anfonwch e-bost at y cyfeiriad e-bost uchod, nodwch yn yr e-bost yr hoffech ymuno â'n rhestr bostio a byddwch yn cael eich ychwanegu!
Pethau i'w gwneud ym Merthyr
P'un a ydych yn byw ym Merthyr Tudful neu ar wyliau ac yn chwilio am bethau i'w gwneud yn yr ardal, rydym yn argymell pori ar y safle Ymweld â Merthyr.
Diolch – hoffem ddiolch i chi am oedi yn ein hadran gymunedol a bod yn rhan o gymuned ein hamgueddfa. Gyda'n gilydd gallwn archwilio'r gorffennol, ymgysylltu â'r presennol ac ysbrydoli'r dyfodol!