3 Gor - 1 Tach 2023 Oriel Ystafell Chwarae - Arddangosfa oedd Industrialised sy'n dwyn ynghyd waith celf yn darlunio De Cymru ddiwydiannol a gynhaliwyd gan Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa, Amgueddfa Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a nifer o weithiau celf o gasgliadau preifat.
Roedd yr arddangosfa hon yn cynnwys gweithiau celf gan ddetholiad eang o artistiaid blaenllaw y 19eg ganrif: Penry Willimas, John Petherick, George Childs, Thomas Prytherch, John George wood, Thomas Horner, Julius Caesar Ibbeston a William Pamplin. Gan ddefnyddio llyfrau braslunio, paentiadau olew a lluniadau, roedd y sioe hon yn adrodd stori am gyfnod lle nad oedd ffotograffiaeth yn bodoli neu o leiaf yn ei fabandod, celf oedd yr unig ffordd o ddal tirwedd newidiol Cymru yn weledol.