Neidio i'r prif gynnwy

Arddangosfa Sefydliad Cyfarthfa 2025

Cyfarthfa: Gorffennol. Presennol. Dyfodol.

Gwnaeth Sefydliad Cyfarthfa agor ei arddangosfa, Cyfarthfa: Y Gorffennol. Y Presennol. Y Dyfodol. yn Amgueddfa ac Oriel Cyfarthfa ym mis Ionawr 2025.

Roedd yr arddangosfa yn cyflwyno naratif a oedd yn dangos siwrnai hanes cyfoethog Cyfarthfa - ei gwreiddiau, ei hanes diweddar, yr hyn a welir heddiw a dyheadau ar gyfer y dyfodol.

O’r sylfeini daearegol a lywiodd y chwyldro diwydiannol i’w rôl fel cartref, ysgol, a chanolfan ddiwylliannol dros y ddwy ganrif ddiwethaf, gwnaeth ymwelwyr archwilio effaith fyd-eang diwydiant haearn Merthyr Tudful, bywydau bob dydd y rhai sydd â chysylltiad â’r Castell, ac atgofion a rennir o ddiwrnodau ysgol, gwyliau a digwyddiadau sydd wedi’u cynnal yn y parc, sydd wedi cadarnhau ei le yng nghalon y gymuned.

Gwnaeth yr arddangosfa hefyd ddangos y cynlluniau adfer sy’n cael ei hyrwyddo gan Sefydliad Cyfarthfa, sy’n cyfuno cadwraeth hanesyddol â chreadigrwydd trawiadol.

Mae Sefydliad Cyfarthfa yn sefydliad elusennol sy’n hyrwyddo’r weledigaeth o drawsnewid Parc a Chastell Cyfarthfa ym Merthyr Tudful – tarddle’r chwyldro diwydiannol – yn ganolfan ddiwylliannol ac atyniad ymwelwyr o safon ryngwladol ac yn gyfrwng ar gyfer adnewyddu cymdeithasol.

Diolch i gefnogaeth y Gyfadran Cyfrifiadura, Peirianneg a Gwyddoniaeth ym Mhrifysgol De Cymru, roedd yr arddangosfa yn cynnwys sgan 360 gradd arbennig o ardaloedd mewnol y castell sydd ar gau i’r cyhoedd ar hyn o bryd.

Gallai gwesteion fwynhau gwaith celf cyfoes sy’n ymateb i’r newidiadau cyffrous sydd i ddod, gan gynnwys gwaith celf newydd wedi’i gomisiynu gan Amanda Turner, artist o Dde Cymru a addysgwyd yng Nghastell Cyfarthfa pan gafodd ei ddefnyddio fel ysgol.

Yn 2025, mae Castell Cyfarthfa yn dathlu ei ddeucanmlwyddiant, ac mae’r arddangosfa yn rhan o Cyfarthfa200; blwyddyn lawn o ddathliadau.

Bu’r arddangosfa yn bosibl diolch i gefnogaeth gan Amgueddfa ac Oriel Gelf Cyfarthfa, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, Prifysgol De Cymru, Merthyr’s Roots ac arian gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Roedd Cyfarthfa: Y Gorffennol. Y Presennol. Y Dyfodol. ar agor o 21 Ionawr i 31 Mawrth 2025.