Rydym yn falch iawn o fod wedi dathlu lansiad ein Gwobr Gelf Cyfosod Cyfarthfa: ar 22 Mai 2025, ynghyd â 76 o artistiaid sy'n arddangos, a llawer o westeion arbennig, fel rhan o ddathliadau deucanmlwyddiant Cyfarthfa.
Gwahoddodd yr arddangosfa gelf unigryw hon artistiaid o bob cwr o Gymru a thu hwnt i ymateb i friff galwad agored; sef edrych trwy ein casgliad amgueddfa o dros 2,500 o baentiadau, lluniadau, cerfluniau a ffotograffau, a dewis eitem ac ymateb iddi, gan ddangos eu persbectif cyfoes. A allai artistiaid ddweud rhywbeth newydd wrthym am yr hyn y mae celf heddiw yn ei adlewyrchu mewn gwirionedd?
Cyhoeddodd panel o feirniaid, gan gynnwys Andre Stitt (Paentio), Bronwen Colquhoun (Ffotograffiaeth) a Sarah Hopkins (Gwneud Printiau), eu gwaith celf buddugol; Enillydd yr Arddangosfa a Pheintio Cyffredinol yw Daniel Lazenby; Dyfarnwyd gwobr ffotograffiaeth i Konrad Gwozdz; ac yn y categori Print, Dan Thorne.
Derbyniodd yr artist buddugol ym mhob categori £500 gyda'r enillydd cyffredinol Daniel Lazenby, yn dderbyn £1,000 tuag at sioe unigol 3 mis yn Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa ddiwedd 2026.
Canmolwyd sawl artist yn uchel a chafodd gyfran o £100 fesul categori. Yn y categori paentio Victoria Beynon oedd yr enillydd amatur a'r artistiaid a ganmolwyd yn uchel oedd Sinead Attwell, Robert da Haan a Gordon Dalton. Hefyd yn cael canmoliaeth uchel am wneud printiau oedd Jaqueline Jones ac Anna Marris, ac am y ffotograffiaeth Anna Dabrowska a Rory Chapman.
Cyfosod Cyfarthfa: Mae’r arddangosfa wedi'i wneud yn bosibl diolch i gefnogaeth gan Sefydliad Cyfarthfa, sef y sefydliad elusennol sy'n hyrwyddo datblygiad hirdymor Castell a Pharc Cyfarthfa ym Merthyr Tudful.
