Neidio i'r prif gynnwy

Cynlluniwch Eich Ymweliad

Mynediad

Math Pris

Oedolion

£3.50

Plant o dan 16 oed

Mynediad am ddim 

Myfyrwyr 

£3.00

Ar ddydd Gwener yn unig 60 a throsodd  

£3.00

Deiliaid Pas Celf 

Mynediad am ddim 

Tocyn Fforiwr Treftadaeth 

Amgueddfa Cyfarthfa a Joseph Parry Derbyn ar y Cyd  

Ebrill - Medi yn unig (Dydd Mawrth a Dydd Iau) 

£5.00 

Oriau agor (1 Hydref – 31 Mawrth )

Dydd Oriau agor

Dydd Llun

AR GAU

Dydd Mawrth – Dydd Sul

10.00yb – 4.30yp

(Mynediad Diwethaf 4.00yp)

Gwyliau Banc

AR GAU

Oriau agor (1 Ebrill – 31 Medi )

Dydd Oriau agor

Dydd Llun – Dydd Sul 

10.00yb – 5.00yp

(Mynediad Diwethaf 4.30yp)

Gwyliau Banc

10.00yb – 5.00yp

(Mynediad Diwethaf 4.30yp)

Sylwch fod yr amgueddfa ar gau ar ddydd Llun a gwyliau banc yn ystod tymor y gaeaf gydag agoriadau cyfyngedig yn ystod gwyliau'r Nadolig.

Rydym yn croesawu plant sy'n 16 oed neu'n hŷn ar eu pennau eu hun ond mae'n rhaid i blant iau fod yng nghwmni unigolyn sydd yn hŷn nag 16 oed. 

O Archaeoleg i Gelf, mae gan lawer o'n horielau a'n harddangosfeydd dros dro nodweddion arbennig sydd wedi'u cynllunio ar gyfer plant.

Sut i archebu

Gellir prynu tocynnau wrth gyrraedd yr Amgueddfa. Rydym yn derbyn taliadau arian parod a cherdyn (yn anffodus ni allwn dderbyn American Express). Fel arall, gallwch brynu eich tocynnau cyn i chi gyrraedd drwy ein tocynnau ar-lein.

Rhaid archebu ar-lein o leiaf 24 awr cyn eich ymweliad.

 

Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa - Tocynnau Celf

Sut i ddod o hyd i ni

Cod Post Sat Nav:  CF47 8PA

 

Mae Parc Cyfarthfa i'r gogledd o Ganol Tref Merthyr Tudful ar yr A470. Mae tua 20 munud o gerdded o ganol y dref neu mae gwasanaeth bws rheolaidd.

O'r orsaf fysiau, cymerwch lwybr Pontsticill neu Drefechan i gatiau'r parc. 

Dod o hyd i ni ar y ffordd

O'r de, cymerwch draffordd yr M4 i gyffordd 32 a theithio i'r gogledd ar yr A470.

O'r gogledd dilynwch yr A470 o Aberhonddu.

O ganolbarth Lloegr cymerwch yr A465 o'r Fenni.

Dilynwch yr arwyddion twristaidd brown.
Mae digon o le parcio ar gael.

 

Dringwch y grisiau i’r brif fynedfa sydd ar flaen yr adeilad.
Mae'r holl barcio ym Mharc Cyfarthfa yn rhad ac am ddim.

Hygyrchedd

Mae Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa wedi'u lleoli mewn adeilad hanesyddol, felly efallai y bydd yn achosi rhai anawsterau mynediad. Mae'r orielau llawr gwaelod yn gwbl hygyrch. Gellir cyrchu orielau’r llawr is ar lifft cadair. Mae cadair olwyn ar gael ar gyfer defnydd ymwelwyr.

Gellir cyrchu mynediad i'r amgueddfa hefyd trwy fynedfa ramp, sydd wedi'i harwyddo'n glir o'r prif risiau.

Mae pob toiled, gan gynnwys toiledau hygyrch a chyfleusterau newid babanod ar gael ar y llawr gwaelod.

Symudedd Corfforol

Mae'r fynedfa i ddefnyddwyr cadair olwyn a chadeiriau gwthio drwy'r cwrt canolog. Gwasgwch yr intercom i ffonio am gymorth.

Mae mynediad cadair olwyn i bob oriel. Gellir ymweld â'r rhan fwyaf o orielau yn annibynnol, ond rhaid i'r lifft i'r orielau ar y llawr isaf gael ei weithredu gan Gynorthwyydd Amgueddfa am resymau diogelwch.

Mae cadair olwyn ar gael ar y llawr isaf. Mae’n cael ei ddyrannu ar sail y cyntaf i'r felin.

Mae amrywiaeth o seddi ym mhob oriel.

Byddwch yn ymwybodol bod lefelau llawr anwastad yn orielau’r lloriau isaf.  

Nam ar y clyw

Mae gan y rhan fwyaf o orielau ac arddangosfeydd ddeunyddiau ysgrifenedig, safonol i gefnogi'r casgliadau.

Cŵn

Dim ond cŵn cymorth sy'n cael dod i mewn i'r Amgueddfa.

Gallwch wneud cais am  ddŵr yfed ar gyfer cŵn cymorth.

Mae ardal ddynodedig i gŵn fynd I’r tŷ bach. Gall y staff eich helpu. 

Cyfleusterau

Mae Siop yr Amgueddfa a'r Ystafelloedd Te yn hygyrch i ddefnyddwyr cadair olwyn.

Mae toiledau hygyrch wedi'u lleoli yn ardal Derbynfa'r Amgueddfa.

Mae cyfleusterau newid babanod wedi'u lleoli yn y Toiledau Anabl.

Julie’s Castle Tearoom 

 Yn gweini diodydd poeth ac oer. 

 Bwydlen Cinio Ysgafn, Cacennau a Te Prynhawn ar gael. 

 Ar agor o 10:00 tan 16:00 Bob Dydd AC EITHRIO DYDD LLUN 

 

Julie's Castle Tearoom

Ffotograffiaeth a Ffilmio

Mae croeso i chi dynnu lluniau at ddefnydd personol ac anfasnachol yn ystod eich ymweliad, oni bai ein bod wedi datgan fel arall. Gofynnwn yn garedig i chi beidio â defnyddio fflach, trypodau na ffyn hunlun.

 

Rhaid gwneud trefniadau i ffilmio’n broffesiynol o flaen llaw. Am fwy o wybodaeth, ewch i'n tudalen fasnachol.

 

Rhannwch eich lluniau gyda ni ar y cyfryngau cymdeithasol!

Facebook: www.facebook.com/cyfarthfa