Neidio i'r prif gynnwy

Cyfarthfa

Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa

Ystyrir mai Castell Cyfarthfa yw’r tŷ Meisr Haearn gorau a mwyaf mawreddog yng Nghymru. Mae'r adeilad, Gradd 1 rhestredig, o arwyddocâd cenedlaethol, hanesyddol a phensaernïol ac fe'i hadeiladwyd ym 1825 ar gyfer y Meistr, William Crawshay II.


Ar ôl i deulu Crawshay adael y castell ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, trodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful y castell yn amgueddfa ac oriel gelf ar y llawr gwaelod ac yn ysgol ar y lloriau uchaf. Nid yw'r ysgol bellach wedi'i lleoli yn y castell, ond mae'r amgueddfa a'r oriel gelf a agorodd eu drysau gyntaf ym 1910, yn parhau hyd heddiw. Yn aml, cânt eu disgrifio fel 'trysor cudd' yn sgil y casgliadau celf a’r hanes cymdeithasol eclectig, ysblennydd.


Gall ymwelwyr â'r amgueddfa a'r oriel gelf ddysgu am dreftadaeth gyfoethog Merthyr Tudful o'r goncwest Rufeinig i'r Chwyldro Diwydiannol a thu hwnt. Mae rhaglen flynyddol hefyd o deithiau cerdded, sgyrsiau, gweithdai, llwybrau teuluol ac arddangosfeydd dros dro.


Mae'r Castell wedi'i leoli mewn 160 erw o barcdir sydd â gerddi ffurfiol, llyn, man chwarae i blant a rheilffordd fechan. Ceir yma ystafell de sy'n cynnig bwyd blasus ac ardal eistedd awyr agored, sy'n berffaith ar gyfer ymlacio yn ystod misoedd yr haf.