Mae Rhif 4 Chapel Row yn enghraifft wych o fwthyn gweithiwr haearn nodweddiadol o’r 19eg ganrif.
Adeiladwyd y bwthyn ym 1825 ar gyfer gweithwyr Gwaith Haearn Cyfarthfa, a dyma fan geni Joseph Parry, cyfansoddwr mwyaf adnabyddus Cymru, ym 1841. Mae ei gyfansoddiad ‘Myfanwy’ yn parhau’n ffefryn gyda chorau meibion Cymru hyd heddiw.
Mae tu fewn y bwthyn wedi’i osod yn y 1840au, ac mae’n dangos amodau byw’r gweithwyr haearn pan oedd Parry’n fachgen ifanc. Mae’r orielau i fyny’r grisiau yn gartref i arddangosfa am fywyd a gwaith Joseph Parry.