Mae Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa yn gartref i gasgliad trawiadol o wrthrychau. Mae'r casgliad yn cynrychioli hanes cyfoethog Merthyr Tudful; o drigolion cynharaf yr Oes Efydd i ddynion, menywod a phlant yr oes ddiwydiannol, a thu hwnt.
Mae blynyddoedd o gasglu gan ddinasyddion Merthyr Tudful hefyd wedi creu etifeddiaeth hynod ddiddorol ar ffurf casgliadau personol, gan gynnwys hanes naturiol, arteffactau o'r Hen Aifft, Prydain Rufeinig a diwylliannau hanesyddol eraill o bob cwr o'r byd. Mae gan yr Amgueddfa gasgliad trawiadol o gelf gain, cerflunwaith a serameg gan gynnwys gwaith gan artistiaid enwog fel Penry Williams, Thomas Prytherch a Syr Kyffin Williams.
Mae'r Rhaglen Addysg yn cael ei chyflwyno rhwng dau safle; Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa a Bwthyn Joseph Parry, ochr yn ochr â chyfle am sesiynau allgymorth, gwaith prosiect a chymorth adnoddau atodol.