Neidio i'r prif gynnwy

Croeso i

Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa

Cyfarthfa 200

Yn 2025, bydd Castell Cyfarthfa yn dathlu ei daucanmlwyddiant.

Wedi'i adeiladu yn 1825 fel cartref teuluol mawreddog i'r meistr haearn William Crawshay II, Castell Cyfarthfa yw trysor pennaf  Merthyr Tudful. Bob blwyddyn mae miloedd o bobl yn mwynhau ymweld â'r castell a'i erddi eang, llyn, man chwarae a chymryd rhan mewn gweithgareddau eraill.

Yn ystod 2025,  bydd Cyfarthfa200,  gyda rhaglen gynhwysfawr o ddigwyddiadau ac arddangosfeydd hwyliog, cyffrous ac addysgiadol a gynhelir i dynnu sylw at bwysigrwydd cenedlaethol a rhyngwladol safle Cyfarthfa, ac i ddathlu hanes y bobl a'r cymunedau a'i gwnaeth.

Bydd Cyfarthfa200 yn dechrau ym mis Ionawr gydag arddangosfa gelf wedi'i churadu ar y cyd yn edrych ar hanes Cyfarthfa, a gynhyrchwyd ar y cyd ag ysgolion lleol, grwpiau ieuenctid a Grŵp Celfyddydau Gweledol Dowlais. 

Bydd Sefydliad Cyfarthfa hefyd yn cyflwyno eu harddangosfa, gan ddathlu treftadaeth, presennol a dyfodol trawsnewidiol Parc a Chastell Cyfarthfa. O'r sylfeini daearegol a'i siapiodd fel canolfan fwyaf gwneud haearn yn y byd; i'w rôl newidiol fel cartref, ysgol a chanolfan ddiwylliannol dros y ddwy ganrif ddiwethaf.

Mae Cyfarthfa200 wedi cael ei ariannu'n rhannol gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Gallwch ddarganfod mwy am yr holl ddigwyddiadau dathlu ar gyfer Cyfarthfa200 ar wefan Croeso Merthyr yma: https://www.visitmerthyr.co.uk/cy/digwyddiadau/?Category=Cyfarthfa200  
Cadwch lygad allan oherwydd bydd mwy a mwy o ddigwyddiadau'n cael eu hychwanegu drwy gydol y flwyddyn. 

Beth sydd i'w wneud?

Lawrlwythwch ap Bloomberg fel y gallwch gynllunio’ch diwrnod allan yng Nghyfarthfa cyn i chi gyrraedd!